#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau sy'n berthnasol i'r Cynulliad o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 12 Gorffennaf a 10 Awst.

Bydd y papur nesaf yn cael ei baratoi ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 12 Medi, a'r bwriad yw paratoi papur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf bob pythefnos o'r adeg honno ymlaen. Bydd y dogfennau ar gael i'r cyhoedd, ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cynulliad ac ar gyfryngau cymdeithasol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

2.1        Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn yr adran hon o'r papur, byddwn yn cynnwys gwybodaeth am waith arfaethedig y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan mai dyma'r pwyllgor fydd yn arwain ar y broses o adael yr UE o fewn y Cynulliad. Caiff yr adran hon ei thargedu'n bennaf at gynulleidfa allanol er mwyn rhoi darlun cryno iddynt o waith presennol ac arfaethedig y Pwyllgor (yn ychwanegol at ddefnyddio tudalennau'r Pwyllgor ar y we).

Byddwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth yn yr adran hon (cyn belled ag y bo modd – h.y. pan fo'r Cadeiryddion/Pwyllgorau yn fodlon i'r wybodaeth hon fod ar gael i'r cyhoedd) am waith Pwyllgorau eraill y Cynulliad ar faterion o fewn eu cylchoedd gwaith sy'n ymwneud â gadael yr UE.

Cynhaliwyd rhai trafodaethau cychwynnol mewn nifer o Bwyllgorau a rhwng Cadeiryddion a swyddogion ar y gwaith y gellid ei gynnal yn y maes hwn yn y dyfodol.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig sydd wedi mynd fwyaf pell, gan lansio ymchwiliad ar amaethyddiaeth yng Nghymru ar ôl i'r DU adael yr UE. Ymwelodd y Pwyllgor â'r Sioe Frenhinol ddiwedd mis Gorffennaf a chyfarfod â ffermwyr a sefydliadau rhanddeiliaid cefn gwlad, gan gynnwys NFU Cymru a'r FUW.

Ers y refferendwm, cynhaliwyd nifer o ddadleuon yn ymwneud â gadael yr UE mewn Cyfarfodydd Llawn yn y Cynulliad. Cynhaliwyd y diweddaraf (o fewn y cyfnod a drafodir yn y papur hwn) ar 13 Gorffennaf, Dadl Plaid Cymru: penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd (13 Gorffennaf).

Ar 3 Awst cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru drafodaeth yn yr Eisteddfod yn y Fenni, gan ddosbarthu copïau o Bapur Ymchwil y Cynulliad, Cymru a'r UE: Beth mae’r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?

2.2        Llywodraeth Cymru

Ar 9 Awst cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Grŵp Cynghori Allanol newydd ar Ewrop yn cael ei sefydlu. Addaswyd ychydig ar y rhestr o gyfrifoldebau Ysgrifenyddion y Cabinet yn ystod yr wythnosau diwethaf a rhoddwyd cyfrifoldeb ychwanegol i Mark Drakeford AC i gadeirio 'Panel cynghori allanol ar Adael yr UE'. Rydym yn deall y bydd y Panel yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi ac y bydd yn cwrdd yn rheolaidd dros gyfnod cychwynnol o 12 mis.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bydd yn cadeirio Is-Bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd o fis Medi.

Ar 21 Gorffennaf cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet, Leslie Griffiths, â Gweinidog y DU dros Ffermio, George Eustice, yn y Sioe Frenhinol gyda 'Brexit' ar frig yr agenda. Cyfarfu hefyd â rhanddeiliaid o Gymru yn ystod yr ymweliad.

Ac wrth gwrs, cyfarfu Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones, â Phrif Weinidog newydd y DU yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf. Dywedodd y ddau arweinydd fod y cyfarfod yn gadarnhaol ac adeiladol.

Mewn datganiad yn dilyn y cyfarfod tanlinellodd y Prif Weinidog ba mor bwysig yw cael gwarantau ynglŷn â chyllid yn y dyfodol ac ynglŷn â sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.

Meddai'r Prif Weinidog, Theresa May, wrth siarad am yr ymweliad:

The union is very important to me and I'm pleased to visit Wales so early in my premiership… What I want to see is the best possible deal for the whole of the UK and I want the Welsh Government to be involved in the discussions - that's why I am here.

2.3        Rhanddeiliaid o Gymru

Ar 18 Gorffennaf cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru bapur briffiofel ymateb cychwynnol i ganlyniad y refferendwm ar yr UE a'r effaith bosibl ar y sector diwylliannol yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at nifer o feysydd y mae gan y sector ddiddordeb mawr ynddynt, gan gynnwys hawl i gyllid yr UE, mynediad at farchnadoedd yr UE, rhyddid artistiaid i symud o le i le, rheolau a rheoliadau sy'n gymwys ledled Ewrop, a Phrifddinas Diwylliant Ewrop. Mae hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â chysylltiadau â'r UE yn y dyfodol, ac Ewrop yn fwy eang, ac ynglŷn ag ail-lunio'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Cyhoeddodd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru flog ar 28 Gorffennaf yn edrych ar yr effaith bosibl ar Gymru wrth i'r DU adael yr UE. Ystyriwyd y gwahanol opsiynau ar gyfer gadael, a'r effaith bosibl o ran y cyllid a fyddai'n dod i Gymru, a'r effaith ar fasnach, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus.

Cyhoeddodd Sefydliad Bevan adroddiad ar 2 Awst Wales after Brexit: an agenda for a fair, prosperous and sustainable country. Mae'r adroddiad yn pennu:

agenda for principles and key actions which should underpin Wales’ economy, society, environment and democracy as Wales withdraws from the EU and responds to the risks and opportunities ahead.

Ar 13 Gorffennaf, cyhoeddodd NFU Cymru bapur briffio ar gyfer ei aelodau (nid yw ar gael i'r cyhoedd) ynglŷn â phenderfyniad y refferendwm ar yr UE a goblygiadau hyn i'r Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ac i Raglen Datblygu Gwledig Cymru.

Daeth y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ewrop ym mis Gorffennaf, gan gymryd lle'r Cynghorydd Bob Bright a roddodd y gorau i'w swydd fel arweinydd Cyngor Casnewydd yn gynharach eleni. Bydd y Cynghorydd Bale yn cynrychioli CLlLC ar banel cynghori allanol newydd Llywodraeth Cymru ar adael yr UE.

3.        

4.       Datblygiadau ar lefel yr UE

4.1        Y Cyngor Ewropeaidd / Cyngor y Gweinidogion

Ganol mis Gorffennaf, ildiodd y DU Lywyddiaeth y Cyngor, a oedd i fod i drosglwyddo iddi yn ail hanner 2017. Roedd hyn yn dilyn nifer o wythnosau o ddyfalu p'un a fyddai'r DU yn cymryd ei thro i Lywyddu'r UE ai peidio, o ystyried y bleidlais yn y refferendwm.

Ar 26 Gorffennaf, cyhoeddodd y Cyngor galendr diwygiedig ar gyfer y Llywyddiaeth. Rhoddwyd cyfnod y DU i Estonia.

4.2        Y Comisiwn Ewropeaidd

Ar 27 Gorffennaf cyhoeddoddLlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, ei fod wedi penodi cyn-Weinidog Ffrainc dros Amaethyddiaeth a Materion Tramor, a chyn-Gomisiynydd yr UE (Polisi Rhanbarthol 1999-2004; Gwasanaethau a'r Farchnad Fewnol 2010-2014), Michel Barnier, yn Bennaeth y Tasglu yn y Comisiwn Ewropeaidd a fydd yn ymdrin â phroses y DU o adael yr UE. Bydd Barnier yn dechrau yn y swydd newydd hon ar 1 Hydref, o dan y teitl Prif Negodwr sy'n gyfrifol am Baratoi a Chynnal y Negodi.

Cyn penodi Barnier, roedd Didier Seeuws wedi'i benodi'n Bennaeth y Tasglu Arbennig ar y DU yn y Cyngor (ddiwedd mis Mehefin), i gydlynu trafodaethau â'r DU ynglŷn â gadael yr UE.

Rhaid aros i weld sut y bydd y ddau dasglu yn gweithio gyda'i gilydd yn y trafodaethau, a beth yn benodol fydd eu rolau. Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu y bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar drafodaethau ar lefel wleidyddol, a'r Comisiwn yn canolbwyntio ar faterion technegol, manwl. Fodd bynnag, dylai hyn ddod yn fwy eglur pan fydd Tasglu Barnier wedi'i sefydlu, ac wrth inni symud tuag at weithredu Erthygl 50.

Neilltuwyd portffolio Comisiynydd yr Undeb Diogelwch i Syr Julian King, enwebai'r DU i gymryd lle yr Arglwydd Hill fel Comisiynydd yr UE. Mae'r drefn ar gyfer penodi Comisiynydd newydd yn lle'r un blaenorol wedi ei nodi yn Erthygl 246(2) o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd: mae'r Cyngor yn penodi'r Comisiynydd newydd trwy gytundeb ('common accord') â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd gan ymgynghori â Senedd Ewrop. Mae hyn yn golygu y bydd King yn ymddangos gerbron y Senedd yn gynnar yn yr hydref, cyn cael ei gadarnhau fel Comisiynydd.

4.3        Senedd Ewrop

Dim i’w nodi.

4.4        Arall: cyfryngau'r UE

Bu nifer o erthyglau yng nghyfryngau'r UE ar sefyllfa'r DU yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae Politico.eu yn cynnwys straeon ar y Swistir (gan awgrymu y gallai'r Swistir ddioddef mewn trafodaethau â'r UE o ganlyniad i'r ffaith bod y DU yn gadael yr UE), a chytundeb masnach rydd Canada (os bydd yn methu, gallai olygu diwedd cytundebau masnach yr UE yn ôl yr erthygl).

Mae gan Euractiv gwpl o erthyglau am y DU a masnach gan gynnwys un am Ddinas Llundain (denu hen ffrindiau, yr Unol Daleithiau a Japan), un am adfywio'r syniad 'gwnaed ym Mhrydain', ac un am y ffaith bod Tsieina i'w gweld yn barod i ystyried cytundeb masnach rydd â'r DU.

5.       Datblygiadau ar lefel y DU

5.1        Llywodraeth y DU

Un o gamau cyntaf y Prif Weinidog newydd, Theresa May, oedd sefydlu adran 'Brexit' yn Whitehall: yr Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, o dan arweiniad gwleidyddol yr Ysgrifennydd Gwladol, y Gwir Anrhydeddus David Davis AS. Enwyd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn un o Weinidogion yr adran newydd hon. Oliver Robbins fydd yr Ysgrifennydd Parhaol ar ei chyfer.

Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu pwyllgor newydd, Pwyllgor y Cabinet ar yr Economi a Strategaeth Ddiwydiannol, gan ddwyn ynghyd 11 o adrannau'r Llywodraeth (nid yw'r rhain yn cynnwys yr un o'r Ysgrifenyddion Gwladol ar gyfer y Gwledydd Datganoledig). Y nod yw cyflawni un o 3 blaenoriaeth uchaf y llywodraeth: economi sy'n gweithio i bawb, â strategaeth ddiwydiannol gref wrth ei wraidd. Cyfarfu'r Pwyllgor am y tro cyntaf ar 2 Awst.

Mae'r Prif Weinidog wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Phenaethiaid Gwladwriaethau'r UE gan gynnwys Canghellor yr Almaen, Angela Merkel (21 Gorffennaf), Arlywydd Hollande o Ffrainc (21 Gorffennaf), Taoiseach Enda Kenny (26 Gorffennaf), Prif Weinidog yr Eidal, Matteo Renzi (27 Gorffennaf), Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Beata Szydło (28 Gorffennaf), a Phrif Weinidog Slofacia, Robert Fico (28 Gorffennaf).

Cyfarfu'r Prif Weinidog hefyd â phob un o Brif Weinidogion y Gweinyddiaethau Datganoledig yn ystod ei phythefnos gyntaf yn y swydd. Rhoddir mwy o fanylion am hyn yn yr adrannau ynglyn â'r gweinyddiaethau datganoledig isod.

Ar 19 Gorffennaf, cafwyd her gyfreithiol i gynnal adolygiad barnwrol o'r defnydd o bwerau uchelfreiniol gan Lywodraeth y DU i gychwyn proses Erthygl 50. Nid oes manylion ar gael ynglŷn â chanlyniad y gwrandawiad ar adeg ysgrifennu'r papur hwn. Mae'r Prif Weinidog wedi ailadrodd ei bwriad i gymryd peth amser cyn sbarduno Erthygl 50, a'r dybiaeth gyffredinol yw fod hyn yn annhebygol o ddigwydd cyn y flwyddyn newydd, gyda rhai sylwebyddion yn awgrymu y gellid gohirio ymhell i 2017. Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones, wedi datgan y byddai'n hoffi gweld Erthygl 50 yn cael ei sbarduno cyn haf 2017.

5.2        Tŷ’r Cyffredin

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ar 28 Gorffennaf ei fod yn cynnal ymchwiliad i oblygiadau canlyniad y refferendwm ar yr UE i Gymru.

Mae Pwyllgor Materion yr Alban hefyd wedi lansio ymchwiliad sy'n gysylltiedig â'r UE, ynglŷn â lle yr Alban yn Ewrop, yn dilyn y bleidlais i adael yr UE, gydag ymgynghoriad cyhoeddus (bydd ymatebion a dderbynnir erbyn 31 Awst yn llywio gwaith y Pwyllgor ym mis Hydref). Nid yw Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon, hyd yma, wedi lansio ymchwiliad sy'n gysylltiedig â'r UE yn dilyn canlyniad y refferendwm.

Lansiodd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd ymgynghoriad ar 8 Gorffennaf i ystyried sut y dylai addasu ei waith craffu yn sgil canlyniad y refferendwm.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Tramor adroddiad ar 20 Gorffennaf:  Equipping the Government for Brexit. Mae'r adroddiad yn arbennig o feirniadol o'r hyn a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i gynllunio ar gyfer canlyniad y refferendwm ar yr UE:

3.The previous Government’s considered view not to instruct key Departments including the FCO to plan for the possibility that the electorate would vote to leave the EU amounted to gross negligence. It has exacerbated post-referendum uncertainty both within the UK and amongst key international partners, and made the task now facing the new Government substantially more difficult.

5.3        Tŷ’r Arglwyddi

Ysgrifennodd Cadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar yr UE, yr Arglwydd Boswell, at David Rees AC ym mis Gorffennaf yn ei longyfarch ar gael ei benodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ac yn pwysleisio ei ymrwymiad i weithio'n agos gyda'r Cynulliad ar faterion yr UE. Nododd hefyd ba mor werthfawr yw Fforwm y CE - y DU o safbwynt y gwaith hwn.

Hefyd, tynnodd yr Arglwydd Boswell sylw at adroddiad Pwyllgor Dethol yr UE a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf. Mae'r adroddiad yn tanlinellu pa mor bwysig yw swyddogaeth graffu'r Senedd (gan ganolbwyntio ar Dŷ'r Arglwyddi), ac yn argymell y dylid rhoi'r cyfrifoldeb penodol i Bwyllgor Dethol yr UE am graffu ar y trafodaethau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod gwaith eisoes wedi'i wneud i baratoi rhaglen o ymchwiliadau trawsbynciol. Nodwyd rhestr o 29 o themâu ar gyfer y gwaith hwn gan gynnwys llawer sy'n uniongyrchol berthnasol i Gymru (e.e. amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd, ymchwil, prifysgolion a myfyrwyr ac ati). Mae hefyd yn tynnu sylw at themâu 'cysylltiadau o fewn y DU' a 'chysylltiadau rhwng seneddau a rhwng sefydliadau'.

Ar 14 Gorffennaf, cynhaliodd Is-Bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE sesiwn gydag arbenigwyr academaidd ar yr effaith ar bolisi amgylcheddol yr UE a'r DU oherwydd i'r DU adael yr UE.

5.4        Cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig

Ymwelodd y Prif Weinidog, Theresa May, â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod yr wythnos ar ôl cael ei phenodi. Rhoddir mwy o wybodaeth am hyn isod yn adrannau 4.2,

5.5        Datblygiadau eraill ar lefel y DU

Mae nifer o sefydliadau sy'n gweithredu trwy'r DU gyfan wedi cyhoeddi eu safbwyntiau ynglŷn â gadael yr UE, gan nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau â'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys:

§    Cydffederasiwn Diwydiant Prydain: 5 egwyddor allweddol ar gyfer trafodaethau â'r UE: gan gynnwys masnachu rhwydd rhwng yr UE a'r DU, cydbwysedd ym maes rheoleiddio, system fudo sy'n caniatáu mynediad i bobl/sgiliau, strategaeth glir ar gyfer masnach ryngwladol

§    Greenpeace: 6 blaenoriaeth ar gyfer yr amgylchedd ar ôl i'r DU adael yr UE: gan gynnwys parhau i fod yn arweinydd byd-eang ym maes newid yn yr hinsawdd; sicrhau diwydiant pysgota cynaliadwy ar ôl tynnu'n ôl o'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin; cynnal deddfwriaeth amgylcheddol gref ar gyfer adar, cynefinoedd a dŵr; a diogelu cyllid ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt gan sicrhau bod cyllid yn gysylltiedig â gwarchod yr amgylchedd.

6.       Yr Alban

6.1        Senedd yr Alban

Bu Pwyllgor Cysylltiadau Ewropeaidd ac Allanol Senedd yr Alban ym Mrwsel ar 17 Gorffennaf ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda Llysgenhadon o Aelod-wladwriaethau'r UE a Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) a sefydliadau eraill ym Mrwsel i drafod y goblygiadau ar gyfer yr Alban wrth i'r DU adael yr UE.

Cynhaliodd y Pwyllgor hefyd sesiynau tystiolaeth gydag ystod o fusnesau a sefydliadau rhanddeiliaid o'r Alban ar 28 Gorffennaf, fel rhan o'i waith yn y maes hwn. Mae'r Pwyllgor wedi trefnu'r sesiynau hyn yn ystod toriad Senedd yr Alban ar gyfer yr haf.

Cynullydd (Cadeirydd) y Pwyllgor yw Joan McAlpine ASE, yr Aelod SNP dros Dde yr Alban.

6.2        Llywodraeth yr Alban

Fel y nodwyd yn gynharach, cyfarfu Prif Weinidog y DU â Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yng Nghaeredin ar 15 Gorffennaf.

Ar 25 Gorffennaf rhoddodd Sturgeon araith ar yr Alban yn yr UE i'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, gan nodi ei syniadau ynglŷn â goblygiadau canlyniad y refferendwm ar yr UE ar gyfer yr Alban, a'i chysylltiadau â'r DU a'r UE.

6.3        Annibyniaeth i'r Alban

Yn ôl arolwg gan YouGov a gyhoeddwyd ddiwedd mis Gorffennaf ar annibyniaeth i'r Alban, sef y cyntaf ers y refferendwm ar yr UE, mae mwyafrif o 53% i 47% o'r farn y dylai'r Alban aros yn rhan o'r DU.

7.       Gogledd Iwerddon

CyfarfuPrif Weinidog y DU â Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, a'r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness, ar 25 Gorffennaf yn Stormont, Belfast.

Wrth siarad ar 20 Gorffennaf cyn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Eithriadol yng Nghaerdydd, dywedodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, fod rhaid i Ogledd Iwerddon a Chymru weithio gyda'i gilydd i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir wrth i'r DU adael yr UE (20 Gorffennaf). Foster yw arweinydd y DUP, a oedd o blaid gadael yr UE.

8.       Cysylltiadau rhwng Prydain ac Iwerddon

8.1        Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Ar 22 Gorffennaf croesawyd Uwchgynhadledd Eithriadol o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i Gaerdydd gan y Prif Weinidog, i drafod y broses o adael yr UE.  Roedd Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny, yn bresennol ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Alun Cairns AS) ac Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Prif Weinidog yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Phrif Weinidogion Ynys Manaw, Guernsey a Jersey. Roedd y communiqué (pdf) a gyhoeddwyd ar ddiwedd Uwchgynhadledd Caerdydd yn tanlinellu rôl bwysig y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn y broses o adael yr UE, ac yn:

reiterated their commitment to facilitating harmonious and mutually beneficial relationships among the people of these islands.

Nododd y datganiad hefyd:

…there are a number of priority areas where implications arise, in particular: the economy and trade, the Common Travel Area, relations with the EU and the status of all citizens affected by the change.

8.2        Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA)

Bydd Pwyllgor C - Materion Economaidd - Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA) yn cynnal ymchwiliad i oblygiadau posibl refferendwm y DU ar yr UE i sectorau bwyd-amaeth y gwledydd sy'n aelodau o BIPA, gyda'r bwriad o baratoi adroddiad yn gynnar yn 2017.

 

9.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd:

Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin:

§    Reading list on UK-EU relations 2013-16: reform, renegotiation, withdrawal (24 Mehefin)

§    Brexit and local government (20 Gorffennaf)

§    Brexit: some legal and constitutional issues and alternatives to EU membership (25 Gorffennaf)

§    Brexit: how will it affect transport? (25 Gorffennaf)

§    Brexit: What next for UK fisheries? (28 Gorffennaf)

§    Brexit and financial services (1 Awst)

§    Brexit and UK immigration and asylum policy: a reading list (2 Awst)

§    Brexit: implications for pensions (10 Awst)

Llyfrgell Tŷ'r Arglwyddi:

§    Briefing on UK-Commonwealth Trade (5 Awst)

Adroddiadau eraill:

§    The EU Single Market: The Value of Membership versus Access to the UK, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (10 Awst)